Cyflyrau'r llygaid |
Rydych yn cael cataract pan mae’r lens glir y tu mewn i’ch llygad yn dod yn niwlog neu’n gymylog. Mae hon yn broses raddol sydd fel arfer yn digwydd wrth i ni heneiddio. Nid yw’n boenus.
Nid yw cyfnodau cynnar cataract yn effeithio ar eich golwg bob tro.
Yr unig driniaeth sydd wedi’i phrofi i fod yn gweithio yw llawdriniaeth. Os bydd y cataract yn cyrraedd cyfnod pan mae’n effeithio ar eich golwg, fe fydd eich optometrydd yn eich cyfeirio i gael y driniaeth wedi’i gwneud yn yr ysbyty. Fe wneir y llawdriniaeth o dan anasthetig lleol ac mae’n ddiogel iawn. Unwaith y bydd y cataract wedi’i dynnu, ni ddaw’n ôl.
Pam fod cataract yn digwydd?
Y prif achos yw oedran. Er hynny, mae cysylltiad rhwng cataractau ac ysmygu, deiet gwael a gormod o olau haul.
Gall pobl ifanc ddatblygu cataractau os gwneir niwed i’r llygad. Fe all rhai cyflyrau meddygol gan gynnwys diabetes neu gymryd rhai meddyginiaethau hefyd achosi cataractau. Mae nifer fechan o fabanod yn cael eu geni gyda chataract.
Beth yw glawcoma?
Glawcoma yw’r enw ar grŵp o gyflyrrau llygaid lle mae’r nerf optig yn cael ei niweidio ar y man lle mae’n gadael y llygaid. Mae’r nerf hwn yn cario gwybodaeth o’r haen sensitif i olau yn eich llygaid, y retina, i’r ymennydd, lle mae’n cael ei ddeall fel llun.
Mae eich llygaid angen pwysau penodol i gadw siap y llygaid er mwyn gweithio’n iawn. Mewn rhai pobl, mae’r niwed glawcoma yn digwydd oherwydd pwysau cynyddol yn y llygad. Mae gan eraill bwysau llygad arferol ond bod niwed yn digwydd gan fod yna wendid yn y nerf optig. Mewn rhai achosion, mae ffactorau pwysau uchel a gwendid yn y nerf optig ond ddim i’r un graddau. Mae pwysau llygaid yn annibynnol i raddau helaeth ar bwysau gwaed.
Pa mor gyffredin yw glawcoma?
Yn y DU mae rhyw fath o glawcoma yn effeithio ar ddau ymhob 100 o bobl dros 40 oed.
Oes yna wahanol fathau o glawcoma?
Oes. Mae pedwar prif fath.
Beth yw dirywiad y maciwlar?
Weithiau mae celloedd tyner y maciwlar yn cael eu niweidio ac yn peidio â gweithio, ac mae llawer o gyflyrau gwahanol yn gallu achosi hyn. Os bydd yn digwydd yn ddiweddarach mewn bywyd, fe’i gelwir yn ddirywiad maciwlar cysylltiedig ag oed, neu AMD (“age-related macular degeneration”).
Yn gyffredinol, mae dau fath o ddirywiad y maciwlar neu AMD, gan amlaf cyfeirir atynt fel ‘gwlyb’ a ‘sych’. Nid yw hyn yn ddisgrifiad o sut mae’r llygaid yn teimlo ond yr hyn mae’r opthalmolegydd (arbenigwr llygad) yn ei weld wrth edrych ar y maciwla.
AMD “sych” yw’r math mwyaf cyffredin o’r cyflwr. Mae’n datblygu’n araf iawn gan achosi colli golwg canol yn araf. Mae llawer o bobl yn canfod fod y celloedd golwg yn peidio â gweithio fel lliwiau yn pylu mewn hen luniau. Nid oes triniaeth feddygol ar gyfer y math hwn. Fodd bynnag, gall pethau fel chwyddwydrau eich helpu i ddarllen a gwneud tasgau manwl eraill.
Mae AMD “gwlyb” yn golygu bod pibellau gwaed newydd yn tyfu o gwmpas y retina, gan arwain at waedu a chreithio, a gall hyn arwain at golli golwg. Gall AMD “gwlyb” ddatblygu’n gyflym ac weithiau gall ymateb i driniaeth yn y cyfnod cynnar. AMD ‘gwlyb’ sydd gan tua 10 y cant o bobl sydd ag AMD.
Mae AMD “gwlyb” a “sych” fel arfer yn cynnwys y ddwy lygad, er y gall un fod wedi’i heffeithio lawer o amser cyn y llall. Mae hyn weithiau yn gwneud y cyflwr yn anodd i’w weld ar y dechrau gan fod y golwg yn y lygad ‘dda’ yn gwneud iawn am y diffyg golwg yn y llygad sydd wedi’i heffeithio. Nid oes modd i chi orddefnyddio’ch golwg, felly peidiwch â bod ofn parhau i ddefnyddio’ch ‘llygad dda’ fel arfer.
Y newyddion da yw nad yw AMD yn boenus, a phrin iawn yw’r adegau pan mae wedi arwain at ddallineb llwyr. Dyma’r prif reswm mwyaf cyffredin dros olwg gwael mewn pobl dros 60 ond dim ond ar adegau prin iawn mae’n arwain at golli golwg yn llwyr gan mai dim ond y golwg canol sy’n cael ei effeithio. Golyga hyn y bydd gan bron pawb sydd ag AMD ddigon o olwg ochr (neu berifferal) i allu symud a chadw annibyniaeth.
Beth sy’n achosi?
Ar hyn o bryd nid oes sicrwydd ynghylch yr hyn sydd wir yn achosi AMD. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau risg wedi’u clustnodi.
Oedran – mae AMD yn gysylltiedig ag oedran felly mae heneiddio yn gwneud y cyflwr yn fwy tebygol.
Rhywedd – ymddengys fod merched yn fwy tebygol na dynion o ddatblygu dirywiad y maciwlar.
Genynnau – Ymddengys fod yna nifer o enynnau sy’n gallu cael eu pasio trwy deuluoedd a allai effeithio ar y posibilrwydd o ddatblygu AMD neu beidio.
Ysmygu – Mae cysylltiad wedi’i wneud mewn nifer o astudiaeth rhwng ysmygu a datblygiad AMD. Fe welwyd hefyd fod rhoi’r gorau i ysmygu yn gallu lleihau’r risg o ddatblygu AMD.
Golau haul – Dengys peth ymchwil fod bod yng ngolau’r haul trwy gydol oes yn gallu effeithio ar y retina. Mae’n syniad da gwisgo sbectol haul er mwyn gwarchod y llygaid.
Maeth – Awgryma ymchwil y gall fitaminau a mineralau helpu diogelu rhai AMD.
Er na ellir gwneud unrhyw beth am oedran, rhywedd a’r genynnau rydym yn eu hetifeddu, mae’n bosibl rheoli’r ffactorau amgylcheddol eraill sydd â chysylltiad ag AMD. Fe allai gwarchod eich llygaid rhag yr haul, bwyta deiet cytbwys gyda digonedd o ffrwythau a llysiau a rhoi’r gorau i ysmygu helpu arafu datblygiad AMD.
Beth yw symptomau AMD?
Yn y dyddiau cynnar, efallai y bydd eich golwg canol yn niwlog neu’n aneglur, a gwrthrychau yn edrych fel petaen nhw’n anghyffredin eu ffurf neu eu maint neu linellau syth yn edrych yn gyrliog neu ddim yn glir. Gall hyn ddigwydd yn gyflym neu ddatblygu dros lawer o fisoedd. Efallai y byddwch yn sensitif iawn i olau neu weld goleuadau, siapiau, a lliwiau sydd ddim yno. Fe allai hyn fod yn anghyfforddus. Nid yw AMD yn boenus.
Gan fod AMD yn effeithio ar ganol y retina, fe fydd pobl sydd â’r cyflwr wedi datblygu, yn aml yn sylwi ar le gwag neu sbotyn tywyll yng nghanol eu golwg. Mae hyn yn gwneud darllen, ysgrifennu ac adnabod gwrthrychau bach neu wynebau yn anodd iawn.
Beth ddylwn i wneud os dwi’n credu bod gen i ddirywiad y maciwlar?
Os ydych yn amau bod gennych chi AMD ond nad oes yna symptomau sydyn, dylech ddod i’n gweld ni neu eich meddyg teulu a fydd yn eich cyfeirio at arbenigwr llygaid. Os oes newid sydyn yn eich golwg, dylech ymgynghori â’ch meddyg neu Adran Ddamweiniau mewn ysbyty ar unwaith.
Os oes gennych AMD mewn un lygad, a’ch bod chi’n cael symptomau cyflym yn y lygad arall, yna fe ddylech fynd i’ch ysbyty neu ofyn i’ch meddyg teulu drefnu apwyntiad argyfwng, cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael triniaeth o fewn ychydig ddyddiau.
Beth yw blepharitis?
Llid ar eich amrannau yw blepharitis. Gall wneud eich amrannau a blew eich amrannau yn goch ac yn galed gan wneud eich llygaid yn annifyr neu’n cosi. Gall hefyd arwain at deimlad o losgi neu frifo yn eich llygaid. Mewn achosion difrifol, fe allai blew eich amrannau syrthio allan, ac fe allech gael doluriau bach neu lyfrithen yn ogystal. Efallai y bydd eich amrannau yn chwyddo. Mae’r symptomau yn tueddu i fod yn waeth yn y bore a phan fyddwch yn deffro, efallai y bydd eich amrannau wedi glynu at ei gilydd.
Gall blepharitis fod yn anghyfforddus, ond dim ond ar adegau prin iawn y bydd yn achosi niwed difrifol i’r llygaid.
Mae blepharitis yn gyflwr cronig (tymor hir). Golyga hyn unwaith y byddwch wedi’i gael, fe all ddod yn ei ôl hyd yn oed ar ôl iddo glirio. Mae fel arfer yn effeithio ar y ddwy lygad. Fe allwch ei drin gan amlaf wrth fod yn ofalus a chadw’r lygad yn lân, ond efallai y byddwch angen triniaeth am rai misoedd.
Fflotars yw smotiau neu linellau bach tywyll sy’n edrych fel petaen nhw’n hofran o flaen eich llygaid. Mae fflotars yn gyffredin iawn ac fel arfer tydyn nhw ddim yn gwneud niwed. Maen nhw’n fwy cyffredin os ydych yn fyr eich golwg neu wrth i chi heneiddio.
Mae rhai pobl yn sylwi hefyd eu bod yn gweld fflachiadau o olau. Gall y rhain fod oherwydd symudiad y gel yn y llygad.
Ar adegau prin, gall fflachiadau neu gynnydd mewn fflotars fod yn arwydd o ddatgysylltu retinâu, sydd angen triniaeth cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn fwy cyffredin wrth i chi heneiddio neu mewn pobl sydd yn fyr eu golwg neu sydd wedi cael llawdriniaeth ar y llygaid.
Os byddwch yn cael y symptomau canlynol, dylech ddod i’n gweld ni neu eich meddyg teulu:
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r symptomau hyn, cysylltwch a ni ne ewch i adran ddamweiniau i’r llygaid yn yr ysbyty.
Cyfeiriad
Barnet Pepper Ltd
Optometrists & Contact Lens Practitioners,
28 Pool Street,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 2AB
Cysylltu:
01286 672717 | staff@barnetpepper.co.uk