Ffôn: 01286 672 717

A- A A+
Eich apwyntiad

Rhestr Wirio Apwyntiad

Neilltuwch 60-90 munud ar gyfer eich archwiliad llygaid (yn cynnwys sganiau a dewis ffrâm)

tick Mae’n bwysig dod â rhestr o’r holl feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar bresgripsiwn.
tick Dowch â’ch sbectols cyfredol efo chi (Ar gyfer cleifion newydd, dowch â phresgripsiwn cyfredol os yn bosibl)
tick Os yw dringo grisiau yn peri trafferth i chi, yna a fyddech cystal â rhoi gwybod am hynny wrth i chi wneud apwyntiad er mwyn inni drefnu apwyntiad mewn ystafell ar y llawr gwaelod.
tick Os ydych am gynnwys un ai’r 'Ultra-wide Retinal Image' neu’r OCT fel rhan o’ch archwiliad llygad, yna rhowch wybod i aelod o staff wrth wneud yr apwyntiad. Efallai y bydd angen i chi ddod i mewn tua chwarter awr yn gynharach ar gyfer hynny.
tick Os na chewch wybod yn wahanol ymlaen llaw, dylech wisgo eich lensys cyffwrdd wrth ddod i’r apwyntiad.
tick Os cawsoch wybod bod angen i chi gael drops yn eich apwyntiad, yna ni ddylech yrru car am o leiaf 2-3 awr wedyn. Cofiwch drefnu cludiant.