Ffôn: 01286 672 717

A- A A+
OCT

imageRydym yn torri tir newydd gyda’r chwyldro technolegol. Roedden ni ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i osod a defnyddio’r OCT (Ocular Coherence Tomography)

Beth yw OCT?

OCT - Ocular Coherence Tomography – yw uwch-sgan llygad ar gyfer pobl o bob oed. Fel uwchsain, mae OCT yn defnyddio golau yn hytrach na thonnau sain er mwyn dangos y gwahanol haenau sy’n creu cefn eich llygaid. Rydym hefyd yn tynnu lluniau digidol o wyneb eich llygaid er mwyn traws-gyfeirio eich maes pryder.

Gan ddefnyddio camera 3D OCT gyda’r diweddaraf ar y farchnad gan Topcon, bydd eich optometrydd yn cymryd llun digidol a sgan trawstoriad tri dimensiwn o gefn eich llygad mewn un eisteddiad. Mae hyn yn ein galluogi i ganfod nifer o gyflyrau cyffredin. Mae’r sgan yn ddi-boen, syml a chyflym ac nid yw’n cyffwrdd â chi. Yn fwy na hynny, gall y feddalwedd ganfod yn awtomatig y newidiadau lleiaf i’r retina hyd yn oed gyda phob prawf llygad y byddwch yn ei gael. Mae hyn yn rhoi cofnod parhaus gwerthfawr i chi o iechyd a chyflwr eich llygaid.

Am beth mae’r sgan yn gallu chwilio?

  • Datgysylltiad y Maciwlar Cysylltiedig ag Oedran
  • Glawcoma
  • Risg o ddatblygu Glawcoma
  • Tyllau Maciwlar
  • Datgysylltiad y Vitreous
  • Diabetes

Bydd sgrinio OCT yn gwarchod iechyd eich llygaid

Mae iechyd eich llygaid yn bwysig i chi ac mae’n bwysig i ni hefyd, a dyna pam yr ydym yn cynnig OCT i bob un o’n cleifion.

Beth yw cost OCT?

Fe all fod yna gost ychwanegol am gael sgan OCT, ond mae’r manteision yn amlwg. Felly cewch fwynhau’r tawelwch meddwl o wybod bod eich llygaid mewn cyflwr da. Cynhwsir y profion yma o dan y cynllun Gofal Golwg.